Ysgrifennwyd o gyfweliad gyda Steve Cranston,
Arweinydd Economi Sylfaenol yng Nghymdeithas Dai United Welsh

Arweinydd Economi Sylfaenol yng Nghymdeithas Dai United Welsh Yn 2017, ffurfiodd y bedair cymdeithas dai ym Mlaenau Gwent (Tai Calon, United Welsh, Cartrefi Melin a Link Cymru) bartneriaeth i gryfhau’r economi lleol. Rhyngom, rydym yn berchen ar oddeutu 20% o’r holl gartrefi yn y sir. Mae hwn yn ôl troed ffisegol mawr, ond rydym hefyd yn cyflogi llawer o bobl, mae gennym gadwyni cyflenwi mawr ac rydym yn darparu llawer o wasanaethau ar wahân i dai. Gyda’n gilydd, gallwn chwarae rôl arwyddocaol yn ffyniant a lles ein cymuned.

Y Broblem

Cychwynnodd y cwbl yn ôl ym mis Mehefin 2017; roedd Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi na fyddai’n rhoi cefnogaeth ariannol i Gylchffordd Cymru, y trac rasio ym Mlaenau Gwent a fyddai, mwy na thebyg, yn newid ffawd yr ardal.

Daeth y newyddion drwg ar yr un diwrnod ag y lansiodd foundationaleconomy.com a CREW (Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth Adfywio yng Nghymru) yr adroddiad What Wales Can Do. Trwy astudio’r economi lleol ym Mae Abertawe, canfuwyd bod buddsoddiadau llawer o filiynau o bunnau (fel Cylchffordd Cymru) yn creu dim mwy na 5% o swyddi yn yr ardal – a gallwch fod yn eithaf sicr mai ychydig iawn o denantiaid cymdeithasau tai fyddai yn y 5% hwnnw.

Cymharwyd y buddsoddiadau hyn gydag economi sylfaenol Bae Abertawe, sef yr holl bethau rydych eu hangen i fyw bywyd da: Iechyd, addysg, lles, tai, gofal cymdeithasol, bwyd, manwerthu, seilwaith ac yn y blaen. Yma, canfuwyd bod mwy na 40% o’r swyddi yn yr ardal wedi eu cysylltu’n uniongyrchol gyda’r economi sylfaenol. 

Felly, roeddem yn meddwl ym Mlaenau Gwent – nid yw Cylchffordd Cymru yn digwydd, a hyd yn oed pe byddai, ni fyddai wedi cyflawni’r adfywio a addawyd. Beth nesaf? Sut allwn ni, fel cymdeithasau tai, wneud gwahaniaeth go iawn i’r economi lleol?

Yr Ateb

Daethom at ein gilydd i drafod pa feysydd a oedd yn bwysig i ni, ac adnabod cadwyni cyflenwi lleol cryf fel pwynt allweddol ar gyfer cydweithredu. Rydym eisiau caffael mwy o wasanaethau gan fusnesau lleol. 

Ar y funud, mae cwmnïau ym Mlaenau Gwent yn gwneud fframiau drysau a ffenestri, ac yn eu hallforio i Ganolbarth Lloegr, wrth yrru heibio cwmnïau yng Nghanolfan Lloegr yn dod i osod ffenestri ym Mlaenau Gwent. Yn amlwg, mae hynny’n hurt!

Yn y gorffennol, rydym wedi canolbwyntio gormod o sylw ar werth am arian o gymharu â lleoliaeth a dibynadwyedd. Ond mae’r argyfwng diweddar hwn wedi amlygu sut y mae cadwyni cyflenwi hir yn cynrychioli mwy o risg ac efallai costau uwch. Drwy gael cyflenwr rownd y gornel, mae’n haws iddynt gyflenwi eu gwasanaethau, ac mae ganddynt fwy o fuddsoddiad yn y gymuned. Os ydyn nhw ar ochr arall y byd, dim ond rhif arall iddyn nhw ydyn ni.

Credwn hefyd na allwn fod yn landlordiaid da os oes tlodi o’n cwmpas ym mhobman. Drwy gefnogi busnesau lleol, rydym yn cadw’r arian ym Mlaenau Gwent. Mae tlodi mewn gwaith yn un o’r heriau mwyaf y mae ein tenantiaid yn ei wynebu; mae gan rai pobl dair swydd er mwyn ceisio bodoli. Nid yw hynny’n iawn. Drwy fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi lleol, gallwn ddarparu gwaith sy’n talu’n deg ar gyfer ein cymuned.

Mesur Llwyddiant

Y brif ffordd o fesur llwyddiant i ni yw arian – faint o arian ydyn ni’n ei roi mewn busnesau lleol? Mae hyn yn bwysig, oherwydd mae’r arian hwn yn mynd i bocedi gweithwyr lleol ac, yn bwysicaf oll, ein tenantiaid.

Yr ail fesur yw ansawdd ein perthynas gyda busnesau. A yw’r rhain yn bartneriaethau iach sy’n galluogi i’r ddwy ochr ddatblygu ac arddangos eu cryfderau? Rydym eisiau symud i ffwrdd oddi wrth fargeinion trafodaethol, unwaith ac am byth, a thuag at berthynas hirdymor.

Rydym hefyd yn ymroddedig i’r syniad o waith teg. Yn anffodus, nodweddion rhai o’r sectorau economi sylfaenol ym Mlaenau Gwent yw ansicrwydd ac amodau a thelerau gwael. Rydym eisiau codi agenda gwaith teg ym Mlaenau Gwent a chael cwmnïau i lofnodi siarter gwaith teg.

Yn olaf, gan edrych at y dyfodol, rydym eisiau cael mwy o fusnesau lleol mewn sefyllfa i dendro am waith. Yn draddodiadol, mae’r amser ar gyfer ein tendrau yn golygu nad yw llawer o fusnesau yn barod i wneud cais. Rydym eisiau cefnogi busnesau lleol drwy gael gwared â’r rhwystrau hynny a meithrin ein perthynas er mwyn iddyn nhw allu manteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol.

Y Dyfodol

Credwn y gall y cydweithrediad hwn rhwng cymdeithasau tai wneud gwahaniaeth go iawn. Mae gennym eisoes berthynas â sefydliadau cyhoeddus eraill megis yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd, yr heddlu a mwy. Drwy weithio gyda’n gilydd a defnyddio ein hadnoddau presennol, gallwn wneud gwahaniaethau arwyddocaol i’r gymuned rydym yn ei chefnogi.

To find out more about the opportunities available to local businesses, you can read Steve’s second blog

Gadael Ymateb