“Mae pob £1 a werir gyda chyflenwr lleol werth £1.76 i’r economi lleol, a dim ond 36cos caiff ei wario y tu allan i’r ardal. Mae hyn yn golygu bod £1 a werir yn lleol werth bron i 400 y cant yn fwy"
– New Economics Foundation
Beth yw’r economi sylfaenol?
Yr economi sylfaenol yw economi beunyddiol eich ardal leol: y busnesau angenrheidiol sy’n gwneud i gymuned ffynnu, megis siopau trin gwallt, tacsis, adeiladwyr, siopau llysiau a ffrwythau ac ati, a’r sefydliadau cyhoeddus a fydd yno bob amser, fel y cyngor, y bwrdd iechyd a chymdeithasau tai.
Bydd economi sylfaenol cryf yn gweld busnesau lleol a sefydliadau cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd, gan fuddsoddi cyllid cyhoeddus yn ôl yn yr ardal.
Yn 2019, lansiodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Her yr Economi Sylfaenol i gryfhau’r economi lleol yng Nghymru. Dyfarnwyd £99,000 i Practice Solutions Ltd. i ddatblygu a lansio Connect4SuccessRCT, cynllun peilot arbrofol i gynyddu buddsoddiad sector cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf.
Ein gweledigaeth yw creu cymuned sy’n fwy cydweithredol, gyda busnesau a sefydliadau cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i dyfu’r economi lleol a darparu gwasanaethau hanfodol i bobl Rhondda Cynon Taf.
Pwy yw Practice Solutions Ltd.?
Sefydlwyd y cwmni ym 1999, ac mae Practice Solutions Ltd. (PSL) yn cefnogi gwelliannau mewn gofal cymdeithasol, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus. Mae PSL yn darparu amrywiol wasanaethau, gan gynnwys cymorth strategol, datblygu gweithlu, cyfryngau digidol a gwasanaethau creadigol.
Mae PSL yn cyflenwi’r gwaith gweinyddol cydgysylltol canolog ar gyfer CysylltuiLwyddoRhCT. Mae hyn yn cynnwys adnabod cyfleoedd i aelodau, cynnig cymorth drwy’r broses dendro, darparu hyfforddiant a mentora i aelodau, trefnu yswiriant priodol a lliniaru risg, a hybu’r cynllun drwy gyfrwng cyhoeddusrwydd a chyfathrebu, a chymorth swyddfa gefn yn gyffredinol.
Rydym yn llawn brwdfrydedd i weithio gyda phobl, busnesau a sefydliadau cyhoeddus ledled Rhondda Cynon Taf ar y peilot arloesol hwn.