Gweithdy Cwrdd â’r Prynwr

Ar ddydd Mawrth 23ain Chwefror, byddwn yn cynnal gweithdy gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Dyma gyfle i gysylltwyr gwrdd â Thîm Caffael y cyngor a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb. 

Dyma gyfle gwerthfawr i unrhyw fusnesau sydd am feithrin perthnasau gyda’r cyngor a chadw llygad ar waith sydd ar ddod. 

Os hoffech chi gymryd rhan, danfonwch e-bost at louise@practicesolutions-ltd.co.uk erbyn dydd Llun 20fedChwefror. 

Sut i Wneud y mwyaf o GwerthwchiGymru

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, mae CysylltuiLwyddoRhCT yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi ac ymgysylltu ar gyfer ein haelodau. Y sesiwn gyntaf fydd Dosbarth Meistr ar Sut i Wneud y Gorau o GwerthwchiGymru ar 26 Ionawr, rhwng 12.30-14.00.

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Sut y gall cyrchu GwerthwchiGymru helpu eich busnes
  • Sut i wella proffil eich cwmni
  • Beth sydd wedi codi gan brynwyr y sector cyhoeddus
  • Sut i wella'ch siawns o ennill tendrau

Hefyd yn bresennol, bydd swyddog caffael o sefydliad sector cyhoeddus lleol, a fydd yn ateb cwestiynau am yr hyn y gall cwmnïau lleol ei wneud i wella eu siawns o ennill contractau.

Os hoffech fynychu'r sesiwn hon, llenwch y ffurflen gofrestru isod erbyn canol dydd, ddydd Llun 25 Ionawr. Byddwn yn anfon cyswllt i'r cyfarfod a'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ymuno.

Dosbarth meistr yn arwyddo

Sut i gefnogi eich cymuned drwy gydweithredu

Un o’r syniadau sy’n gyrru CysylltuiLlwyddiantRhCT yw busnesau lleol yn cydweithio i wella eu cymuned. Enghraifft wych o hyn yw Play It Again Sport, menter gymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf, sy’n gweithio gydag elusen Too Good to Waste i wneud chwaraeon yn fwy hygyrch. Rydym wedi siarad gyda Rheolwr y Fenter Natasha Burnell ar sut mae’r berthynas yn gweithio:

Sefydlwyd Play It Again Sport yn 2016 gan Steffan Rees, hyfforddwr karate o Ynyshir, Rhondda. Roedd yn gwybod nad oedd plant yn mynychu ei ddosbarthiadau ef (na chwaraeon eraill) oherwydd prinder arian i brynu’r cit roedd ei angen. Roedd hefyd yn gwybod bod gan lawer o bobl offer a chit chwaraeon yn hel llwch yn eu cartrefi: wedi tyfu allan ohonyn nhw, ddim eu heisiau mwyach neu ddim yn cael eu defnyddio bellach.  

Dyna’r ateb i’r broblem: derbyn rhoddion o ddillad chwaraeon nad oedd ei angen bellach a’i werthu am bris fforddiadwy.

Bedair blynedd yn ddiweddar ac mae Play It Again Sport nawr yn gweithredu allan o Too Good to Waste yn Ynyshir, lle mae nwyddau gwyn, dodrefn a bric a brac yn cael eu cyfrannu, eu gwyro o’r safle tirlenwi, eu gwerthu a rhoi bywyd newydd iddyn nhw.

Mae’r berthynas rhwng Play It Again Sport a Too Good To Waste yn un symbiotig: mae angen profi’r peiriannau golchi a sychu yn drwyadl, gan olchi’r dillad chwaraeon sydd wedi eu rhoi i Play It Again Sport.  

Y canlyniad? Peiriannau golchi diogel a dillad glân.

Fel menter gymdeithasol, ni fyddai Play It Again Sport yn gallu fforddio lle masnachol i werthu nwyddau. Mae gweithio gyda Too Good To Waste yn cynnig lle delfrydol wrth ddarparu amrywiaeth cynnyrch i gwsmeriaid.

Ein nod yw dileu rhwystrau i gymryd rhan mewn chwaraeon, boed yn redeg, pêl droed, gymnasteg neu unrhyw beth sy’n gwneud i’ch calon guro’n galetach! Mae chwaraeon mor bwysig, nid yn unig ar gyfer iechyd corfforol, ond iechyd meddwl a lles hefyd. Mae’n rhoi cyfle i liniaru unigrwydd ac unigedd cymdeithasol i bobl o bob oedran.

Rydym yn dibynnu ar roddion gan bobl a busnesau lleol o eitemau nad ydynt eu hangen bellach. Rydym wedi derbyn gyda diolch stoc sydd wedi ei ddifrodi gan ddŵr gan Glwb Pêl Droed Dinas Caerydd, samplau gan Quatro gymnastics, citiau tîm gan Cambrian, ac eraill. Byddai’r eitemau hyn wedi mynd i’r safle tirlenwi, eu hallforio fel “Dillad am Arian” (gan gynyddu’r ôl troed carbon a niweidio diwydiannau tecstil lleol). Drwy wyro’r stoc i Play It Again Sport, mae’n fanteisiol i’r amgylchedd, ond hefyd yn cefnogi’r economi sylfaenol.

Mae gennym finiau rhoddion ym mhob un o ganolfannau hamdden RhCT, yng nghanolfannau hamdden Cwmbrân a Phont-y-pŵl a hefyd ym mhencadlys Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd. Ewch i’n gwefan http://www.playitagainsport.wales/ i gael rhagor o wybodaeth ac i gael hyd i’n manylion cyswllt. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael gyda chymdeithasau tai?

Ysgrifennwyd o gyfweliad gyda Steven Cranston,
Arweinydd Economi Sylfaenol yng Nghymdeithas Dai United Welsh

Fel cymdeithas dai, rydym angen amrediad eang o wasanaethau, ond nid yw pawb yn gwybod beth sydd ar gael.

Rydym yn berchen ar stoc fawr o dai, felly y prif feysydd yw gwasanaethau cynnal chadw wedi eu cynllunio a rhai adweithiol: mae gwaith wedi’i gynllunio yn golygu unrhyw waith rydym yn gwybod y bydd angen ei wneud yn y pum mlynedd nesaf; gwaith adweithiol yw unrhyw waith newydd sydd angen ei wneud ar unwaith. 

Ond efallai nad yw pobl yn gwybod bod gennym lawer o gontractau llai ar gael, gan gynnwys cyfathrebu, papurach, dillad, gwasanaethau dylunio a gwneud ffilmiau. Mae’r rhain oll yn bwysig i waith United Welsh.

Gweithio gyda chwmnïau sy’n rhannu ein gwerthoedd

Un o’n contractau mwyaf yw gwasanaethau bwyd. Rydym wedi agor dau ddatblygiad yn ddiweddar, ac roedd y ddau angen bwyty yn darparu hyd at 100 pryd o fwyd y dydd am saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. 

Wrth wneud gwaith ymchwil i’r math o fusnes roeddem eisiau partneru ag o, buom yn ymweld â rhai cynlluniau yn Lloegr ac nid oeddem yn rhy hapus gyda’r hyn a welsom. Er bod rhai o’r bwytai yn edrych yn dda, roeddynt yn darparu naill ai prydau bwyd microdon wedi’i rhewi neu fwyd hen ffasiwn, o ansawdd isel. Roedd rhai trigolion nad oeddynt yn cael digon o faeth – roedd y bwyd yno ond nid oeddynt eisiau ei fwyta. 

Felly, gofynasom sut allem wneud hyn yn wahanol. Pwy oeddem yn eu hadnabod a oedd yn darparu gwasanaethau bwyd ac sy’n rhannu ein gwerthoedd?

Cawsom bartner yn Vision 21, menter gymdeithasol yng Nghaerdydd sy’n darparu amrediad o wasanaethau o amgylch anableddau dysgu. Aethom i weld eu Prif Weithredwr Barry Shires yn Sbectrwm, ac fe ddangosodd ei gegin i ni. Esboniodd sut maent yn trin bwyd, teimlad cymunedol y lle, ac roeddem yn hoffi’r hyn a welsom.

Vision 21 nawr yw’r darparwr bwyty ar gyfer y ddau gynllun, ac mae wedi bod yn gyfle gwych i weithio gyda menter gymdeithasol.

Creu dyfodol cynaliadwy

Mae pob cymdeithas dai yng Nghymru yn cael targedu anodd i ddad-garboneiddio ein cartrefi o fewn cylch deng mlynedd. Mae hyn yn golygu newid yr insiwleiddiad ac, o bosib, troi at ynni adnewyddadwy.

Mae gennym bartneriaeth gyda’r bedair gymdeithas dai ym Mlaenau Gwent (Tai Calon, United Welsh, Cartrefi Melin a Link Cymru), felly rydym wedi penderfynu cynnal peilot i ôl-osod ein cartrefi yn barod ar gyfer y dyddiad dad-garboneiddio.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i feithrin perthynas gyda busnesau lleol sydd naill ai eisoes yn ôl-osod cartrefi, neu sydd â diddordeb mewn gwneud hyn yn y dyfodol. Rydym yn dechrau sgwrsio nawr, a chefnogi busnesau fel eu bod yn barod pan fydd contractau ar gael.

Mae peilotio yn gwneud synnwyr cyffredin, ond nid ydym yn credu ei fod yn digwydd yn ddigon aml. Rydym yn adnabod rhyw 50 eiddo yr un, felly rhyw 200 ledled Blaenau Gwent, gyda chymysgedd o eiddo a lleoliadau. Er enghraifft, efallai y byddwn yn dewis cartrefi a adeiladwyd ar ôl 1990 gydag insiwleiddiad ceudod, tra bydd eraill efallai yn dewis fflatiau a adeiladwyd yn y 60au, neu dai teras o’r cyfnod cyn y rhyfel.

Drwy weithio gyda’r gwahanol gymdeithasau tai, yr awdurdod lleol a busnesau lleol, rydym yn arbed cymaint o amser ac arian! Fel arfer, buasech yn cychwyn arni a gwneud camgymeriadau drudfawr. Fel hyn, gallwn rhannu’r hyn rydym yn ei ddysgu ac rydym oll yn elwa.

Ac nid y cymdeithasau tai yn unig a fydd yn elwa. Mewn deng mlynedd, bydd, mae’n debyg, mwy o gymhelliad i berchnogion-ddeiliaid a landlordiaid preifat i ddad-garboneiddio eu cartrefi hefyd. Drwy weithio gyda busnesau lleol nawr, rydym yn sicrhau bod y cwmnïau a’r sgiliau hynny yma ym Mlaenau Gwent at y dyfodol.

I gael gwybod rhagor am sut mae United Welsh yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned, gallwch ddarllen blog cyntaf Steve blog

Sut y mae cymdeithasau tai ym Mlaenau Gwent yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned

Ysgrifennwyd o gyfweliad gyda Steve Cranston,
Arweinydd Economi Sylfaenol yng Nghymdeithas Dai United Welsh

Arweinydd Economi Sylfaenol yng Nghymdeithas Dai United Welsh Yn 2017, ffurfiodd y bedair cymdeithas dai ym Mlaenau Gwent (Tai Calon, United Welsh, Cartrefi Melin a Link Cymru) bartneriaeth i gryfhau’r economi lleol. Rhyngom, rydym yn berchen ar oddeutu 20% o’r holl gartrefi yn y sir. Mae hwn yn ôl troed ffisegol mawr, ond rydym hefyd yn cyflogi llawer o bobl, mae gennym gadwyni cyflenwi mawr ac rydym yn darparu llawer o wasanaethau ar wahân i dai. Gyda’n gilydd, gallwn chwarae rôl arwyddocaol yn ffyniant a lles ein cymuned.

Y Broblem

Cychwynnodd y cwbl yn ôl ym mis Mehefin 2017; roedd Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi na fyddai’n rhoi cefnogaeth ariannol i Gylchffordd Cymru, y trac rasio ym Mlaenau Gwent a fyddai, mwy na thebyg, yn newid ffawd yr ardal.

Daeth y newyddion drwg ar yr un diwrnod ag y lansiodd foundationaleconomy.com a CREW (Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth Adfywio yng Nghymru) yr adroddiad What Wales Can Do. Trwy astudio’r economi lleol ym Mae Abertawe, canfuwyd bod buddsoddiadau llawer o filiynau o bunnau (fel Cylchffordd Cymru) yn creu dim mwy na 5% o swyddi yn yr ardal – a gallwch fod yn eithaf sicr mai ychydig iawn o denantiaid cymdeithasau tai fyddai yn y 5% hwnnw.

Cymharwyd y buddsoddiadau hyn gydag economi sylfaenol Bae Abertawe, sef yr holl bethau rydych eu hangen i fyw bywyd da: Iechyd, addysg, lles, tai, gofal cymdeithasol, bwyd, manwerthu, seilwaith ac yn y blaen. Yma, canfuwyd bod mwy na 40% o’r swyddi yn yr ardal wedi eu cysylltu’n uniongyrchol gyda’r economi sylfaenol. 

Felly, roeddem yn meddwl ym Mlaenau Gwent – nid yw Cylchffordd Cymru yn digwydd, a hyd yn oed pe byddai, ni fyddai wedi cyflawni’r adfywio a addawyd. Beth nesaf? Sut allwn ni, fel cymdeithasau tai, wneud gwahaniaeth go iawn i’r economi lleol?

Yr Ateb

Daethom at ein gilydd i drafod pa feysydd a oedd yn bwysig i ni, ac adnabod cadwyni cyflenwi lleol cryf fel pwynt allweddol ar gyfer cydweithredu. Rydym eisiau caffael mwy o wasanaethau gan fusnesau lleol. 

Ar y funud, mae cwmnïau ym Mlaenau Gwent yn gwneud fframiau drysau a ffenestri, ac yn eu hallforio i Ganolbarth Lloegr, wrth yrru heibio cwmnïau yng Nghanolfan Lloegr yn dod i osod ffenestri ym Mlaenau Gwent. Yn amlwg, mae hynny’n hurt!

Yn y gorffennol, rydym wedi canolbwyntio gormod o sylw ar werth am arian o gymharu â lleoliaeth a dibynadwyedd. Ond mae’r argyfwng diweddar hwn wedi amlygu sut y mae cadwyni cyflenwi hir yn cynrychioli mwy o risg ac efallai costau uwch. Drwy gael cyflenwr rownd y gornel, mae’n haws iddynt gyflenwi eu gwasanaethau, ac mae ganddynt fwy o fuddsoddiad yn y gymuned. Os ydyn nhw ar ochr arall y byd, dim ond rhif arall iddyn nhw ydyn ni.

Credwn hefyd na allwn fod yn landlordiaid da os oes tlodi o’n cwmpas ym mhobman. Drwy gefnogi busnesau lleol, rydym yn cadw’r arian ym Mlaenau Gwent. Mae tlodi mewn gwaith yn un o’r heriau mwyaf y mae ein tenantiaid yn ei wynebu; mae gan rai pobl dair swydd er mwyn ceisio bodoli. Nid yw hynny’n iawn. Drwy fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi lleol, gallwn ddarparu gwaith sy’n talu’n deg ar gyfer ein cymuned.

Mesur Llwyddiant

Y brif ffordd o fesur llwyddiant i ni yw arian – faint o arian ydyn ni’n ei roi mewn busnesau lleol? Mae hyn yn bwysig, oherwydd mae’r arian hwn yn mynd i bocedi gweithwyr lleol ac, yn bwysicaf oll, ein tenantiaid.

Yr ail fesur yw ansawdd ein perthynas gyda busnesau. A yw’r rhain yn bartneriaethau iach sy’n galluogi i’r ddwy ochr ddatblygu ac arddangos eu cryfderau? Rydym eisiau symud i ffwrdd oddi wrth fargeinion trafodaethol, unwaith ac am byth, a thuag at berthynas hirdymor.

Rydym hefyd yn ymroddedig i’r syniad o waith teg. Yn anffodus, nodweddion rhai o’r sectorau economi sylfaenol ym Mlaenau Gwent yw ansicrwydd ac amodau a thelerau gwael. Rydym eisiau codi agenda gwaith teg ym Mlaenau Gwent a chael cwmnïau i lofnodi siarter gwaith teg.

Yn olaf, gan edrych at y dyfodol, rydym eisiau cael mwy o fusnesau lleol mewn sefyllfa i dendro am waith. Yn draddodiadol, mae’r amser ar gyfer ein tendrau yn golygu nad yw llawer o fusnesau yn barod i wneud cais. Rydym eisiau cefnogi busnesau lleol drwy gael gwared â’r rhwystrau hynny a meithrin ein perthynas er mwyn iddyn nhw allu manteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol.

Y Dyfodol

Credwn y gall y cydweithrediad hwn rhwng cymdeithasau tai wneud gwahaniaeth go iawn. Mae gennym eisoes berthynas â sefydliadau cyhoeddus eraill megis yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd, yr heddlu a mwy. Drwy weithio gyda’n gilydd a defnyddio ein hadnoddau presennol, gallwn wneud gwahaniaethau arwyddocaol i’r gymuned rydym yn ei chefnogi.

To find out more about the opportunities available to local businesses, you can read Steve’s second blog

Sut mae Hensol Castle Distillery wedi ffynnu drwy addasu i alwadau newidiol

Roedd Hensol Castle Distillery yn Nyffryn Morgannwg i agor drysau eu canolfan ymwelwyr ym mis Mawrth eleni. Dechreuodd y ddistyllfa, sy’n cael ei rhedeg gan y teulu yn naeargell castell hanesyddol Hensol, fasnachu ei jin ei hun ym mis Awst 2019 i fanwerthwyr, ac roedd ar fin dod yn un o’r distyllfeydd cyntaf yn Ne Cymru i wahodd y cyhoedd i mewn. Roedd hynny cyn i bandemig Covid-19 ei orfodi, ynghyd â llawer o filoedd o fusnesau yn fyd-eang, i ddod â phethau i ben dros dro.

Dywedodd y Rheolwr-Gyfarwyddwr, Andy Mallows bod y cwmni yn wynebu’r penderfyniad naill ai i roi’r ffatri ar ffyrlo, neu ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng drwy newid ei linell cynhyrchion i wneud glanweithydd dwylo mawr ei angen i weithwyr rheng flaen. Roedd synnwyr cryf y cwmni o gyfrifoldeb cymdeithasol a’r tîm rheoli clos yn golygu eu bod wedi penderfynu’n gyflym ar yr ail lwybr a dechreuwyd cynhyrchu glanweithydd dwylo i gleientiaid ledled y wlad.

“Aeth fy mab a minnau ati i agor cadwyn gyflenwi newydd,” esboniodd Andy. “Roedd yn un o’r pethau anoddaf rydym wedi ei wneud, ond bu i ni ddal ati ac fe lwyddon ni. O fewn pythefnos, roeddem wedi dechrau cynhyrchu glanweithydd. 

“I ddechrau roeddem eisiau cael hyd i’r cynwysyddion yn lleol, ond ein nod oedd gwneud y glanweithydd mor hygyrch â phosibl i wasanaethau cyhoeddus, felly roedd yn rhaid mynd yn bellach o fewn y DU i gael y niferoedd a’r costau iawn.”

Effaith

90,000L

o lanweithydd dwylo yr wythnos

150,000

o boteli 100ml yr wythnos, i gleientiaid yn cynnwys Heddlu’r Met

3900%

cynnydd mewn argraffiadau ar y cyfryngau cymdeithasol oherwydd y proffil uwch

Defnyddio Adnoddau Lleol

Gyda chontractau yn dod i mewn i gyflenwi glanweithydd llaw i sefydliadau mawr gan gynnwys Senedd Cymru, Heddlu’r Met, Trafnidiaeth Cymru, y Vale Hotel, John Lewis, awdurdodau lleol a byrddau iechyd, canfu’r cwmni na allai ymdopi gyda’r galw uchel am y cynnyrch. Gan ddefnyddio eu cysylltiadau gyda’r ysgol uwchradd leol, cawsant help gan nifer o athrawon nad oedd yn gweithio oherwydd y cyfnod clo, er mwyn delio gyda’r archebion mawr.  

Since then, the distillery has gone on to create more than 12 additional jobs, employing high school students aged 17-18 to continue to help meet the demand. This employment has given the teenagers opportunities to stay occupied through this unsettling period and has allowed them to make some earnings for their lives post-lockdown.

“Rydym wedi gweithio dyddiau 16 awr, saith diwrnod yr wythnos am y chwe wythnos ddiwethaf,” meddai Andy. “Ond aethom ati i wneud hynny oherwydd bod pobl ei angen ar y rheng flaen.

“Rydym wedi dysgu bod yn chwim a hyblyg. Pan ddaw anawsterau, mae angen meddwl yn greadigol ac yn agored o ran sut gallwch arallgyfeirio eich hun. Mae yna gyfle bob amser, dim ond mater o gael hyd iddo, ac mae bod yn dîm bychan clos yn ein galluogi i adweithio’n gyflym i newidiadau yn y farchnad.”

Y Canlyniad

Er y bu costau arwyddocaol o ganlyniad i addasu’r busnes (megis yr angen i wasanaethu offer y ddistyllfa, sydd wedi ei amharu gan gynhyrchu glanweithydd) mae’r cwmni hefyd wedi gweld manteision go iawn i’r newidiadau byrdymor y mae wedi eu gwneud. 

Trwy droi ei sylw at gynhyrchu rhywbeth sydd wedi bod mawr ei angen, mae’r cwmni wedi codi ei broffil yn genedlaethol, ac o ganlyniad bu galw cynyddol am ei jin a’i wirodydd. Mae cyfradd gwerthiannau jin ar hyn o bryd ar y farchnad wedi cynyddu, ac mae gan y ddistyllfa nawr 6-8 wythnos lawn o archebion sy’n aros tan fydd yn dychwelyd i wneud jin yn y dyfodol agos. 

Nid yw’r cwmni yn cymryd yr ewyllys da a grëwyd o ganlyniad o weithio i gefnogi gweithwyr rheng flaen yn ganiataol, ac mae’n cynllunio i sicrhau bod y cyfrifoldeb cymdeithasol hwn yn bwydo i mewn i ethos y cwmni pan fydd distyllu gwirodydd jin yn dod yn brif ffocws unwaith eto.